Traeth Barafundle (Llun oddi ar wefan Visit Pembrokeshire)
Mae un o draethau Sir Benfro wedi’i enwi yn un o draethau gorau’r byd ar wefan y cylchgrawn teithio, Passport.

Mae traeth Barafundle sydd wedi’i leoli ger pentref Stackpole ar arfordir Penfro wedi cyrraedd rhestr o 25 o draethau gorau’r byd, sy’n cynnwys traethau yn Sbaen, Awstralia, Hawaii, Groeg a Mecsico.

Dim ond un traeth arall ym Mhrydain sydd wedi cyrraedd y rhestr, sef traeth Bae Robin Hood yn swydd Efrog, Lloegr.

Mae’r wefan yn canmol traeth Barafundle drwy ddweud: “Mae troad hir y tywod, ynghyd â’r twyni tywod a’r bryniau o laswellt y gwneud iddo deimlo’n hynod o breifat.

“Mae’r clogwyn sy’n cael ei adnabod fel Stackpole Head yn ymestyn yn hir ac yn syth i’r môr fel braich.”