Mae landlordiaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared â’r ffïoedd ychwanegol y mae’n rhaid iddyn nhw eu talu wrth brynu tŷ ar gyfer ei rentu allan.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid talu 3% yn ychwanegol ar y Dreth Stamp wrth brynu tŷ i’w rentu, ond mae Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl yn galw am newid y rheolau pan ddaw treth newydd i rym.

Fe fydd y Dreth Trafodiadau Tir yn cymryd lle’r dreth stamp yng Nghymru yn 2018 ac mae Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl eisiau cael gwared â’r tâl ychwanegol os yw’r landlord yn ychwanegu at y stoc dai.

Pryder Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl yw bod y tâl ychwanegol presennol yn arwain at gynnydd yn y rhent ac yn cyfyngu ar faint o dai sydd ar gael i’w rhentu.

Cafodd y tâl ychwanegol o 3% ei gyflwyno llynedd gan gyn-Ganghellor y Trysorlys, George Osborne.