Mae undeb amaethwyr yr FUW wedi rhybuddio ffermwyr dofednod a pherchnogion adar i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau o ffliw adar yn Sir Gaerfyrddin.

Daw’r rhybudd yn sgil adroddiadau diweddar fod ieir a hwyaid wedi’u heintio gyda ffliw adar H5N8 mewn gardd ym Mhontyberem ar ddydd Mawrth, Ionawr 3.

Dyma’r un straen o’r clefyd a gafodd ei ddarganfod yn Llanelli ar Ragfyr 22, a fferm dyrcwn yn Swydd Lincoln ddydd Gwener, Rhagfyr 16.

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi cyhoeddi ei bod yn estyn Parth Atal Ffliw’r Adar sy’n cwmpasu Cymru gyfan, am 7 wythnos arall, tan 28 Chwefror 2017.

“Mae hyn yn achos pryder i’n ffermwyr dofednod ac i unrhyw un sydd yn cadw ieir, hwyaid ac unrhyw un sy’n cadw dofednod ar lefel llai a mwy preifat,” meddai Uwch Swyddog Polisi’r FUW, Dr Hazel Wright.

“Dwi’n erfyn ar unigolion sydd yn cadw adar i ddilyn y canllawiau swyddogol sydd wedi eu darparu gan yr Uwch Swyddog Milfeddygol, ac i weithredu diogelwch hylendid o’r safon uchaf.”

Cyngor

Mae perchnogion dofednod wedi’u cynghori i gysylltu â milfeddygon os ydynt yn poeni am iechyd eu hadar, a chaiff aelodau’r cyhoedd eu hannog i gysylltu â Defra ar 03459 335577 os ydynt yn gweld unrhyw adar dwr gwyllt, fel hwyaid, gwyddau ac elyrch, sydd wedi marw.

Caiff perchnogion dofednod hefyd eu hannog i ddarparu manylion ynglŷn â’u hadar i’r Gofrestr Dofednod er mwyn sicrhau bod modd cysylltu gyda nhw os fydd achos arall.