Rhodri Glyn Thomes (Llun: golwg360)
Mae cyn-Aelod Cynulliad am geisio dychwelyd i’r maes gwleidyddol fel cynghorydd ym mis Mai eleni – a hynny er mwyn rhoi mwyafrif clir i Blaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mewn cyfweliad â golwg360, mae Rhodri Glyn Thomas yn dadlau bod “diffyg disgyblaeth gwleidyddol” wedi arwain at ddiwylliant annemocrataidd yn Sir Gâr sydd bellach dan arweiniad aelod o’i blaid ef ei hun.

“Does dim arweiniad gwleidyddol wedi bod yna tan yn ddiweddar iawn, ac mae dod i’r afael â diwylliant felly yn cymryd cryn amser, mae’n galw am cryn benderfyniad,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Cam cynta’ yw cael mwyafrif clir i Blaid Cymru fel bod Emlyn Dole, fel Arweinydd, â’r pŵer y tu ôl iddo fe i sicrhau ei fod e’n gallu sefydlu yr arweiniad gwleidyddol hynny yn gryf iawn iawn.

“Dw i’n ymwybodol bod newidiadau wedi bod, mae yna newid wedi bod yn yr arweinyddiaeth, ac mae’r pwyllgor gweithredol dan arweinyddiaeth Emlyn Dole nawr yn dangos llawer iawn mwy o arweiniad gwleidyddol nag sydd wedi bod ers cryn amser yn Sir Gaerfyrddin.”

Degawdau o ddiffygion 

Dadl Rhodri Glyn Thomas, cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yw bod degawdau o glymbleidio yn Sir Gaerfyrddin wedi arwain at “ddiffyg cyfeiriad gwleidyddol”.

Ac mae hynny, meddai, wedi arwain at gryfhau rôl swyddogion y Cyngor tros aelodau etholedig.

“Oherwydd bod y garfan Annibynnol wedi bod mewn grym nawr ers cychwyn y cyngor sir ac wedi bod mewn swyddi allweddol, gan gynnwys yr arweinyddiaeth, dros gyfnod hir iawn iawn,” meddai, “dw i’n credu bod y diffyg disgyblaeth wleidyddol hynny wedi golygu bod swyddogion wedi datblygu mwy a mwy o’r grym o ran penderfyniadau sydd wedi eu cymryd a chyfeiriad o ran y polisïau.”