Wedi misoedd o “frwydro i’r pen” gan ymgyrchwyr, fe ddaeth penderfyniad Cyngor Gwynedd ym mis Medi eleni y bydd yn cau pedair llyfrgell yn y sir.

Er mwyn arbed tua £170,000 y flwyddyn, bydd llyfrgell Harlech, Penrhyndeudraeth, Llanberis a Deiniolen yn cau.

Yn ôl Idris Thomas o Ddeiniolen,  cyn-reithor â’r Eglwys yng Nghymru, mae’r penderfyniad yn “gywilyddus” wrth i Gyngor Gwynedd “ddwyn o’r dyfodol i dalu am heddiw”.

“Dyna sydd wedi digwydd tra bod cau’r llyfrgelloedd yn bod oherwydd mae pwysigrwydd darllen yn bwysig, mae hybu llythrennedd yn bwysig hefyd ac mae’r cyfan yn medru newid bywyd,” meddai wrth golwg360.

“Tristwch ydi’u cau nhw, ac mae’r cyfan yn effeithio ar ddyfodol pawb ohonom ni ond yn arbennig felly y genhedlaeth nesaf.

“Llyfrgelloedd yn fy marn i ydy un o’r lleoedd mwyaf hanfodol i’n cymdeithas wareiddiedig.”

“Ddim yn ddigon da”

Y llyfrgelloedd agosaf i drigolion ardal Dyffryn Peris bellach fydd yng Nghaernarfon a Bangor.

“… Be’ mae Cyngor Gwynedd yn ei gynnig rŵan ydy peiriant oeraidd mewn ystafell wag i bob pwrpas ac ry’ch chi’n archebu eich llyfrau fan yno, dydy hynny ddim yn ddigon da,” meddai Idris Thomas.

“Pan dw i’n mynd i siopau Cymraeg, pan dw i’n mynd i Waterstones, dw i eisiau gweld y llyfr yno a’i fyseddu o fel petai cyn ei brynu o.

“Mae’r cyfan yn drist, drist – lladd gwareiddiad i ni yn sicr. Mae yna lefydd eraill buasai Cyngor Gwynedd yn gallu torri yn hytrach na thorri rhywbeth cwbl arbennig,” ychwanegodd Idris Thomas.

“Rydan ni wedi brwydro i’r pen, rydan ni wedi cysylltu â phawb a phopeth, cawson ni ymgynghoriad iawn yma. Gofynnon ni iddyn nhw [Cyngor Gwynedd] ystyried o ddifrif… mae gwir angen llyfrgell yma i blant a phobol ifanc.

“Mi fydd o’n ddiwrnod trist i mi yn bersonol ac i lawer un arall pan fydd y drysau’n cau.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd i sylwadau Idris Thomas.

Mae modd gwrando ar ei ddadleuon tros gadw llyfrgelloedd, yn y clip hwn: