Sian Williams bedair blynedd cyn cael diagnosis canser (Llun Sian Williams CCA2.0)
Mae cyflwynwraig deledu Gymreig a ddioddefodd o ganser wedi dweud wrth bobol roi’r gorau i boenydio eu hunain tros fwyd.

Doedd rhoi’r gorau i fwyta rhai mathau o fwydydd ddim wedi ei rhwystro hi rhag cael canser, meddai Sian Williams, un o gyn gyflwynwy rhaglen BBC Breakfast.

A hithau ar fin dechrau cyflwyno cyfres newydd am fwyd, fe ddywedodd fod eisiau bwyta er mwyn hapusrwydd, nid dim ond er mwyn colli pwysau.

Bwyd hwyliau da

“Beth am wneud 2017 yn flwyddyn ar gyfer bwyd i greu hwyliau da,” meddai’r newyddiadurwraig a gafodd ddwy fron wedi eu codi o ganlyniad i ganser.

“Fe ddylen ni roi’r gorau i’n poenydio ein hunain am yr hyn y dylen ni neu na ddylen ni ei fwyta; fe fyddwn ni’n rhoi diwedd ar fyw mewn cyflwr o hunan-wadu newynog ac yn rhoi’r gorau i ddilyn y cylch llwgu-siwgr-llwgu.”

Mewn erthygl am y gyfres newydd yng nghylchgrawn y Radio Times, fe soniodd am neges yr arbenigwr canser iddi – na fyddai gwydriad o win coch yn dod â’r canser yn ôl.

Mae Sian Williams wedi cyflwyno nifer o gyfresi teledu, gan gynnwys prif fwletinau’r BBC. Roedd wedi ei magu yn Llundain, yn ferch i fam o Lanelli a thad o Abertawe.