Tom Jones a Linda yn 1970 (Lllun PA)
Y canwr o Gymru Tom Jones yw un o’r enwogion sydd wedi anfon neges at ei gefnogwyr adeg y Nadolig.

Ac roedd gan y diddanwr o Bontypridd reswm arbennig eleni – ar ôl marw ei wraig Linda ynghynt eleni.

Fe ddywedodd Syr Tom mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fod cefnogaeth ei ddilynwyr wedi helpu codi ei galon yn ystod y flwyddyn.

Roedd Melinda Woodward wedi mar wyn 75 oed ac, er fod y canwr yn enwog am fercheta, roedden nhw wedi aros yn briod am 59 o flynyddoedd.

Mae nifer o enwogion wedi anfon negeseuon at gefnogwyr, yn amrywio o sylwadau Nadoligaidd sentimental i luniau o’u anrhegion.