Mae morlo bach wedi ei achub ar ôl cael ei ddarganfod mewn cae bron i saith milltir o’r môr echdoe ym Mro Morgannwg.

Fe gafodd y morlo gwrywaidd ei ganfod ar dir fferm yn Graig Penllyn ger y Bont-faen.

Yr RSPCA wnaeth achub y morlo a’r gobaith yw iddo wella a chael ei ryddhau nôl i’r môr.

Fe gafodd ei ganfod yn sychedig ac ychydig dan ei bwysau.

“Rydw i’n gweithio i’r RSPCA ers bron i 30 mlynedd, a dyma’r tro cyntaf i mi achub morlo,” meddai Gary Lucas, un o swyddogion yr RSPCA…

“Rhaid bod y morlo bach yma wedi teithio bron i saith milltir o’r môr a chyrraedd Graig Penllyn drwy nofio fyny un o’r nentydd lleiaf posib.”