Mae ffigurau’n dangos bod bron i 10 miliwn o ddefaid yn byw yng Nghymru, gyda’r ffigwr wedi cynyddu 3.2% dros y flwyddyn ddiwethaf.

9.81 miliwn oedd y cyfanswm yng Nghymru yn 2016.

Mae Hybu Cig Cymru’n dweud bod hyn yn arwydd o hyder yn nyfodol y diwydiant, gyda’r nifer wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn ers 2009.

Dywedodd Swydd Gwybodaeth y Farchnad Hybu Cig Cymru, John Richards: “O uchafbwynt o bron i 12 miliwn yn niwedd y 1990au, disgynnodd y niferoedd am rai blynyddoedd, yn bennaf oherwydd diwedd y taliadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin oedd yn seiliedig ar y nifer o anifeiliaid a gadwyd.

“Yn sgil y symudiad i daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd a gofal amgylcheddol, disgynnodd nifer y defaid i tua 8 miliwn.

“Ond yn y 6 mlynedd ddiwethaf bu cynnydd eto, ac mae cyfrifiad eleni yn dangos fod y cyfanswm bron wedi cyrraedd 10 miliwn unwaith eto.”

Heriau o hyd

Ychwanegodd: “Yn sicr, mae heriau yn wynebu’r diwydiant cig oen o hyd, mae’n rhaid sicrhau fod pawb – gan gynnwys ffermwyr a phroseswyr – yn cael pris da am eu cynnyrch yn bwysig, sy’n golygu parhau i addasu i ofynion y cwsmer,” ychwanegodd.

“Mae ansicrwydd gwleidyddol o gwmpas Brexit hefyd yn golygu ei bod hi’n anodd darogan sut y bydd strwythurau cymorth ariannol a threfniadau masnach yn effeithio maint y ddiadell Gymreig.”