Owain Fon Williams gyda'r darlun (Llun oddi ar ei dudalen Facebook)
Mae golwr Cymru, Owain Fôn Williams, wedi cofnodi hanes ymgyrch Cymru yn rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc ar gynfas.

Cafodd ei ysbrydoli i ddarlunio profiadau’r garfan gan ddau o’i gyd-chwaraewyr, Joe Ledley a Wayne Hennessey wrth i’r garfan ddathlu cyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth cyn colli yn erbyn Portiwgal, a aeth ymlaen i ennill y twrnament.

“Roedd haf 2016 yn un bythgofiadwy i ni yng Nghymru, un y gwnaf i fyth anghofio,” meddai Owan Fôn Williams ar ei wefan.

“Tra roeddwn allan yn Ffrainc, roedd Joe Ledley a Wayne Hennessey wedi bod yn fy mhen, i beintio llun o’r ddau – oherwydd y llwyddiant ges i byth y cyfle!

“Mae wedi cymryd dros bum mis i mi ei gwblhau a dwi yn mawr obeithio fy mod wedi llwyddo i wneud cyfiawnder â phawb fu’n chwarae eu rhan yn un o lwyddiannau mwyaf hanesyddol ein gwlad. Cymru am byth!”

Ychwanegodd fod y llwyddiant “yn llawn haeddu cael ei gofnodi ar gynfas”, a’i fod e wedi tynnu ar arwyddair Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth greu’r darlun.

“Dwi wedi ceisio cyfleu’r ymdeimlad o ‘gyda’n gilydd yn gryfach’, felly does neb yn ganolog yn y llun, doedd dim un unigolyn yn ganolog i’r llwyddiant. Y ‘wal goch’ yn gefndir, Ash [Ashley Williams], Gareth [Bale], Osian [Roberts], Chris [Coleman], Aaron [Ramsey], Joe [Ledley], Hal [Robson-Kanu]… gydag unigolion llai adnabyddus ond allweddol fel Mark Evans (sydd wedi’i godi) ac Ian Gwyn Hughes a gafodd y fraint o siarad y Gymraeg am y tro cyntaf erioed mewn cynhadledd twrnamaint pêl droed rhyngwladol.”

Mae printiadau o’r darlun ar gael ar wefan Owain Fôn Williams, a bydd y gwreiddiol yn cael ei gynnwys mewn arddangosfa ‘Arwyr Cymru’ yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ym mis Mawrth.

Bydd peth o’r elw o’r printiadau’n cael ei roi i ward plant Ysbyty Gwynedd.