Heledd Gwyndaf yn annerch y dorf yng Nghilmeri
Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf wedi dweud mai mater o “godi’r pwnc, plannu’r had” yw sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Gwnaeth ei sylwadau mewn araith yng Nghilmeri yn ystod digwyddiad blynyddol yn y fan lle cafodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei ladd ar Ragfyr 11, 1282.

Agorodd ei haraith drwy ddyfynnu cerdd enwog Gerallt Lloyd Owen, cyn dweud bod y Ddeddf Uno rhwng Cymru a Lloegr yn “golygu gormes un wlad ar y llall… un wlad yn difa’r llall”.

Ond aeth ymlaen i dynnu ar brofiadau cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016 oedd yn profi, meddai, y gall Cymru fod yn genedl falch unwaith eto.

Gwrthsefyll gormes Lloegr

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf: “Esgusodwch ni, ond mae gyda ni fel cenedl gyfraniad i’w wneud i’r byd ym mhob maes, a’r byd i ninnau, ond esgusodwch ni Loegr, ond ry’ch chi yn ein ffordd, yn bwrpasol felly ac mae e braidd yn anfoesgar.”

Ond wrth wfftio Lloegr, rhaid “bod yn glir am ba fath o genedl y’n ni’n moyn”, meddai.

“Ydyn ni’n moyn cenedl sydd yn meddwl ei bod yn well na phobol a chenhedloedd eraill y byd? Ydyn ni’n moyn cenedl sydd yn meddwl mai hi yw’r genedl orau neu Great neu Greatest yn y byd?

“Ydyn ni’n moyn cenedl sydd yn meddwl bod ganddi ddwyfol hawl i ddweud wrth genhedloedd eraill sut mae byw a pha genedl yn wir sydd yn cael bodoli a pha genedl sy’n cael marw?

“Ydyn ni’n moyn cenedl sydd yn erlyn lleiafrifoedd a’r rhai mwyaf bregus yn ein mysg?”

Ond beth yw gwlad gref?

Nid agwedd ‘ni a nhw’ sydd ei angen er mwyn creu gwlad gref, yn ôl Heledd Gwyndaf, na “meddwl ein bod ni’n well na neb arall”.

“Nid dyma beth yw cenedlaetholdeb. Dyw caru eich gwlad ddim yn golygu casau cenhedloedd eraill a dymuno eu tranc. Nid cenedlaetholdeb yw meddwl ein bod ni’n well na neb arall.

“Dw i’n hollol glir bod angen cenedl arnon ni sydd yn sylweddoli ein bod ni mor llewyrchus ac iach â’r gwannaf a’r mwyaf bregus yn ein mysg – dim gwaredu’r rhain sy’n creu gwlad gref.

“Trin pobol bregus gyda thegwch a chariad sy’n gwneud gwlad gref. Ac mae mawredd a chryfder gwlad yn golygu cymaint mwy na grym dros eraill.

“Ond hoffwn i genedl sydd hefyd yn hollol hyderus ac yn gwybod, fel ffaith, ein bod ni’n gydradd ar lwyfan y byd. Ddim yn eilradd, ddim yn atodiad. Dy’n ni ddim gwell na chenhedloedd eraill y byd, ond dy’n ni ddim bripsyn yn waeth chwaith.”

Gwlad ranedig?

Yn ôl Heledd Gwydaf, mae’r Cymry wedi cael eu cyflyru i gredu bod Cymru’n wlad ranedig – “yn dde, gogledd, gorllewin, dwyrain, y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg.

“Ond dim ni sydd wedi rhannu ein hunain, y gelyn sydd wedi ein rhannu ni, ond ry’n ni’n beio’n gilydd.”

Dywed fod yr iaith Gymraeg wedi cael ei defnyddio “i’n rhannu ni”, ond cafodd hithau hefyd ei beirniadu yn ystod y digwyddiad am rannu’r dorf drwy eu hannerch yn Gymraeg yn unig.

Dywedodd wrth Golwg360 bod y feirniadaeth yn “hollol ddisgwyliedig” ac yn “ddealladwy” ond y byddai siarad Saesneg mewn dathliad o’r fath wedi “mynd yn groes i’r graen” a bod rhaid “normaleiddio’r Gymraeg” mewn sefyllfaoedd dwyieithog.

“Mae pobol yn teimlo’n grac ond rhaid i ni gofio mai sefydliad Lloegr sydd wedi gwneud hyn i ni.”

Ennill annibyniaeth

“Ymgyrch y bobol” fydd yr ymgyrch i ennill annibyniaeth i Gymru, meddai Heledd Gwyndaf, ac mae’n rhaid “newid gêr yr ymgyrch”.

“Ar lawr gwlad mae ei hennill hi. Dw i’n meddwl Cymru yn ystyr mwyaf eang y gair. Os wnawn ni’r gwaith ar lawr gwlad, mi ddaw dydd y bydd mawr y rhai bychan.

“Sdim ishe aredig y tir, ma hwnnw’n go seiliedig o ffrwythlon ers canrifoedd, dyna’r oll sydd gyda ni i wneud yw hau’r had, hau a hau a hau.

“Ac wrth blanu’r had ac yn y dyddiau wedyn mae eisiau egni ar yr had…”

Ychwanegodd fod angen “torchi llewys” gan nad yw’r Cymry’n “barod i weld cenedl gyfan yn mynd i ddifancoll, ein cenedl ni”.

“Achos mae gan bob cenedl rhywbeth i gynnig i’r byd. Hon yw fy ffenest i ac mi fyddai tranc Cymru a’i hiaith yn golygu ffenest arall yn llai yn y byd hwn.

“Mae hon yn frwydr dros ein heinioes ni ac mae hi’n frwydr dros hawliau a chyfiwander.

“Mae Llywelyn wedi troi digon yn ei fedd erbyn hyn.”