Ras yr Iaith ym Mangor.
Mae trefnwyr Ras yr Iaith wedi cyhoeddi fod dros £12,000 ar gael i fudiadau sy’n hybu’r Gymraeg y flwyddyn nesaf.

Fe fydd posib wedi gwneud cais am grantiau yn amrywio rhwng £50 i £750 sydd ar gael i’r ardaloedd ble cynhaliwyd y Ras yng Ngorffennaf 2016.

Fe redodd dros 2,000 o unigolion y ras eleni, a hynny dros dridiau o Fangor yn y gogledd i Landeilo yn y de.

Aeth y ras drwy 24 o drefi a dinasoedd gyda 2,000 wedi cymryd rhan.

Bwriad y ras yw dathlu’r Iaith Gymraeg.

Dywedodd Siôn Jobbins, Sefydlydd y Ras: “Roedd y Ras eleni yn hynod lwyddiannus a nawr rydym yn gallu rhannu’r llwyddiant gyda mudiadau sydd am wneud ceisiadau grant. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan unrhyw fudiad neu gymdeithas sydd am gynnal digwyddiad neu ymgyrch fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn diolch i’r holl noddwyr cilomedrau gwahanol sydd wedi gwneud y grantiau yma’n bosib”

Dywedodd Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: “Mae’r Mentrau Iaith wedi mwynhau trefnu Ras yr iaith ac yn hynod o falch o’r bwrlwm a fu ar draws saith sir nôl ym mis Gorffennaf. Nawr rydym am weld ffrwyth llafur y gwaith hwnnw, sef cael rhoi grantiau i fudiadau i wneud gwahaniaeth dros yr iaith yn eu hardaloedd lleol.”

Fe fydd y daith eleni yn mynd drwy Fangor, Bethesda, Llanrwst, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Dolgellau, Machynlleth, gan barhau drwy’r canolbarth gan ymweld ag Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Ceinewydd, Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Aberteifi, gan orffen yn Sir Gaerfyrddin a Chastell Nedd Port Talbot, gan basio trwy Grymych, Arberth, Dinbych-y-pysgod, San Clêr, Caerfyrddin, Rhydaman, Brynaman, Llanymddyfri, gan orffen yn Llandeilo.

Y dyddiad cau i wneud ceisiadau am grant yw 12pm Dydd Gwener, Chwefror 3 2017.