Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd
Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, fe alwodd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Cymru i leihau ei tharged ar gyfer triniaethau er mwyn lleihau’r effaith ar bobol sy’n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Ar hyn o bryd, targed Gwasanaeth Iechyd Cymru yw trin pobol yw 36 wythnos, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld hynny’n gostwng i 18 wythnos.

Yn ôl ffigurau’r Ceidwadwyr, bu dros  56,000 o ymweliadau gan gleifion o Gymru i’r ysbyty yn Lloegr rhwng 2014 a 2015, tra bod 10,500 o ymweliadau wedi dod o Loegr i’r ysbyty yng Nghymru.

“Mae gan Gymru a Lloegr ffin agored ac mae iechyd trawsffiniol yn dal i fod yn broblem fawr, gyda phum gwaith yn fwy o gleifion yng Nghymru yn teithio i Loegr na’r sawl sy’n teithio o Gymru i Loegr,” meddai Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae gwahaniaethau mewn polisi yn gynnyrch anochel o ddatganoli ond gall gael effaith ddofn ar iechyd ar y ffin, gan fod yn broblematig i weinyddwyr, clinigwyr a chleifion.

“Mae rhestrau aros yn rhy hir, targedau allweddol yn cael eu colli’n gyson a’r staff yn gweithio dan bwysau anferth yn y Gwasanaeth Iechyd sy’n cael ei redeg gan Lafur.

“Byddai torri targedau amseroedd aros Gwasanaeth Iechyd Cymru’n anfon neges gref i gleifion bod Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i ddelifro Gwasanaeth Iechyd sy’n addas at ei ddiben.”

Ymateb yr Ysgrifennydd Iechyd

Ymatebodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, i’r ddadl, drwy ddweud y byddai’r Llywodraeth yn hapus i gydweithio â Llywodraeth Prydain os bydd y cydweithio hwnnw’n adeiladol.

“Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob claf yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel ar yr amser cywir yn y lle cywir,” meddai yn y Senedd.

“Weithiau, gwasanaethau dros y ffin yn Lloegr yw’r peth gorau i gleifion Cymru.”

“Mae angen cael sgwrs gall a synhwyrol ar y ffordd mae cleifion yn cael triniaeth a lle maen nhw’n ei chael.

“… Rydw i’n hapus i roi gwybod i Aelodau bod Llywodraeth Cymru yn trafod â Gwasanaeth Iechyd Lloegr am ddarpariaeth gofal iechyd ar y ffin.

“Roedd y trafodaethau hyn yn ddiweddar ar drefniadau cyfeirio Meddygon Teulu a byddwn yn ystyried anghenion ehangach cleifion ar y ffin a fydd yn buddio o gael cytundeb mwy ffurfiol yn ei le.

Cyfeiriodd at ffigurau sy’n dangos bod dros 20,800 o bobol yn Lloegr wedi’u cofrestru â Meddyg Teulu yng Nghymru, o gymharu â 14,700 o bobol yng Nghymru, sydd wedi’u cofrestru â Meddyg Teulu yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Yn anffodus, gwaethygu mae perfformiad Lloegr o ran yr amser aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth – mae ar ei lefel uchaf erioed erbyn hyn.  Y llynedd yn unig cafwyd cynnydd o bron 400,000 (12%) yn nifer y bobl oedd yn aros am driniaeth yn Lloegr. Dyna pam nad oes gennym unrhyw gynlluniau i efelychu Lloegr. Ein targed ni o hyd yw sicrhau bod 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth.

“Unwaith eto mae’r Ceidwadwyr wedi mynd ati’n fwriadol i gamddehongli’r ystadegau. Mae’r ffigurau a ddyfynnwyd yn cyfeirio at nifer y derbyniadau i ysbytai, yn hytrach nag at nifer yr unigolion. Gallai un person gael ei gyfrif sawl gwaith pe bai’n gorfod mynd i’r ysbyty fwy nag unwaith oherwydd gwahanol gyflyrau, neu nifer o weithiau oherwydd yr un cyflwr.”