Guto Bebb AS
Ar ail ddiwrnod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, fe fydd Gweinidog Swyddfa Cymru yn gofyn i  ffermwyr ifanc ddangos angerdd a chodi llais os ydyn nhw am warchod eu treftadaeth amaethyddol.

Daw galwad Guto Bebb wrth iddo ymweld â’r ffair amaethyddol er mwyn cyfarfod cynrychiolwyr o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

“Mae wir yn bwysig bod ffermwyr ifanc heddiw’n parhau i deimlo’n angerddol am eu treftadaeth,” meddai’r AS dros Aberconwy.

“Mae dyfodol y diwydiant ffermio, sy’n asgwrn cefn amaethyddiaeth Cymru, yn eu dwylo nhw.

“Rydw i’n eu herio i ddal ati i fod yn optimistig am eu diwydiant – ac mae rhesymau da dros deimlo’n bositif am ddyfodol ffermio.

“Ffermwyr Ifanc Cymru sy’n cynrychioli’r genhedlaeth nesaf yn y byd ffermio yng Nghymru. Chi ydi’r arbenigwyr, mae eich llais yn hanfodol, felly lleisiwch eich barn.”

Y cystadlu

Mae gan Ffermwyr Ifanc Cymru fwy na 5,000 o aelodau gweithredol (rhwng 10 a 25 oed) mewn 157 o glybiau ledled Cymru wledig.

Mae mwy na 1,300 o wartheg, defaid, moch a cheffylau wedi cofrestru ar gyfer yr ŵyl ddeuddydd yn Llanelwedd ynghyd â 180 o garcasau ŵyn.