Trwy gydol y dydd mae siopau wedi bod yn cynnig nwyddau am brisiau rhatach nag arfer gyda gostyngiadau mawr ar rhai nwyddau.

Mae siop Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi bod yn gwerthu nwyddau am 15% yn rhatach, a siop Maplin wedi gostwng pris peiriant karaoke o £49.99 i £39.99, a phris camera HD o £169.99 i £119.99.

Ond mae ymateb cwsmeriaid yng Nghymru yn awgrymu bod Dydd Gwener Gwallgof – Black Friday – wedi colli ei apêl.

Fe ddywedodd staff siopau John Lewis, Shoe Zone, Maplin, Capital Shopping Centre yng Nghaerdydd nad oedden nhw fawr prysurach na’r arfer.

Mae ystadegau adroddiad diweddar gan Traidcraft yn dangos nad yw pobl Cymru yn gefnogol o’r Dydd Gwener Gwallgof gyda 56% o Gymry yn galw ar iddo ddod i ben.

Ffenomen Brydeinig

Ymateb tebyg sydd wedi bod drwy wledydd Prydain gyda phobol yn troi at siopa ar y We er mwyn dod o hyd i fargeinion.

Mae un adroddiad yn honni bod prisiau hanner y nwyddau sy’n cael eu prynu mewn gwirionedd yn fwy costus ar Ddydd Gwener Gwallgof.