Janet Finch-Saunders
Mae Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr tros Aberconwy, newydd adael un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ei dagrau.

Roedd Janet Finch-Saunders i weld wedi ypsetio wrth holi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett.

Yn ystod y cyfarfod, fe grybwyllwyd dau achos penodol yn ei hetholaeth hi, a’r rheiny’n ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.