Cyngor Gwynedd
Mae cynnig i godi tâl ychwanegol ar bobol sy’n prynu ail gartref yng Ngwynedd gam yn nes heddiw.

Fe wnaeth aelodau cabinet Cyngor Gwynedd argymell codi 50% yn ychwanegol o dreth gyngor ar dai sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy.

Daw wedi bron i 1,000 o bobol gymryd rhan mewn ymgynghoriad gyda’r rhan fwyaf yn dweud nad oedden nhw’n berchen ar ail dŷ ac y dylid codi mwy o drethi ar y rheiny sydd yn.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ar 8 Rhagfyr.

Yng Ngwynedd y mae’r mwyaf o ail gartrefi o holl siroedd Cymru, gyda thua 5,000 ar y cyfan.

Yn sgil hyn, mae pryder wedi ei godi ynglŷn â chodi’r tâl ychwanegol, gyda’r Dr Simon Brooks yn dweud y dylid codi’r trethi yn raddol.