Chris Roberts (llun o apel gofundme)
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gigydd a thad i bedwar o blant wnaeth ddisgyn yn farw ar stryd yng Nghaernarfon ddydd Llun.

Fe lewygodd Chris Roberts, 34, yn agos i’w waith ar Stryd y Llyn ychydig wedi 9:00 fore ddoe a bu farw er gwaethaf ymdrechion y cyhoedd a pharafeddygon i’w achub. Nid yw’n hysbys beth oedd achos ei farwolaeth ar hyn o bryd.

Mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel “cawr addfwyn” oedd yn “dad, brawd ac ewythr heb ei ail”.

Bu’n gweithio yn siop cigydd Dafydd Jones am 21 mlynedd.

Mae tudalen wedi ei chreu er mwyn codi arian i’w deulu ac i helpu hefo costau’r angladd.