Traeth Abersoch yng Ngwynedd Llun: Wikimedia
Mae pryder y bydd cynnig i godi mwy o dreth cyngor ar ail gartrefi yng Ngwynedd yn golygu mai dim ond pobol sydd wedi ymddeol fydd yn medru fforddio prynu ail gartref yno, yn ôl ymgyrchydd iaith.

Dadl Dr Simon Brooks, sy’n byw ym Mhorth-y-Gest ger Porthmadog, yw y dylid codi’r dreth yn raddol er mwyn osgoi culhau’r farchnad dai a rhwystro pobol sydd ddim mewn oed ymddeol rhag prynu ail gartref yn y pentref.

Fe fydd aelodau cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y cynnig yn ddiweddarach heddiw ac yn ôl y cynlluniau, fe all bil treth gyngor perchnogion ail dai gynyddu o 50% o fis Ebrill 2018.

Ond mae Simon Brooks eisiau gweld y dreth yn codi yn raddol ac yn cael ei gosod ar 25% yn y lle cyntaf.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am ymateb.

Pwrpas

Gan mai Gwynedd sydd a’r nifer fwyaf o ail gartrefi yn holl siroedd Cymru – sef bron i 5,000 – mae Simon Brooks yn pryderu y gall y dreth ychwanegol waethygu’r sefyllfa.

“Un diben yn unig sydd i drethu tai haf, sef tai i bobol leol. Er mwyn hynny, rhaid cyflwyno’r dreth yn raddol, er mwyn rhyddhau tai’n raddol,” meddai ar ei gyfrif trydar.

“Os ydi’r dreth yn rhy uchel a gormod o dai haf yn dod ar y farchnad tua’r un pryd, y canlyniad fydd darparu tai ar gyfer y farchnad ymddeol.

“Yma, yn Borth-y-Gest, tai i bobl leol sydd eisiau i adfywio’r pentref, nid rhagor o dai ymddeol, felly premiwm o 25% yn y lle cynta’, plîs.

Y dreth

Eisoes mae cynnig i godi trethi ar ail gartrefi yn Sir Benfro a Phowys, gyda’r cynghorau yn bwriadu cynyddu’r dreth o 50% o fis Ebrill 2018.

Cynnydd o 25% sydd ar y gweill ar Ynys Môn ac yng Ngheredigion, tra bod Conwy wedi cyhoeddi cynnydd o 100% – y lefel uchaf bosib.