Mae 30 o adeiladau yn parhau heb gyflenwad trydan yng nghyffiniau Pwllheli yn dilyn storm o fellt a tharanau yn yr ardal.

Mae Milfeddygfa Deufor ger pentref y Ffôr ymhlith y rhai sydd wedi cael eu heffeithio. Dywedodd Mared Jones ar ran Milfeddygfa Deufor: “Does gynnon ni ddim cyfrifiaduron, mae’n ‘bach o drafferth a dim ond y ffôn sy’n gweithio. Mi’r ydym yn gobeithio y daw yn ôl yn fuan. Ar y funud dydi o ddim effeithio ar ein meddyginiaeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cwmni Scottish Power: “Fe dorrwyd y cyflenwad trydan am 10 o’r gloch y bore yma o ganlyniad i ddiffyg ar y rhwydwaith uwchben, gyda 30 o gwsmeriaid yn cael eu heffeithio. Mae’n bosib fod hyn wedi digwydd oherwydd storm mellt a tharanau yn yr ardal.”

Mae’r cwmni wedi cadarnhau fod peirianwyr yn ceisio adfer y cyflenwad trydan ar hyn o bryd, ond nid oedden nhw yn sicr pa bryd fydd y trydan yn dychwelyd.  Maen nhw yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.