Mark Jones Llun: Heddlu De Cymru
Mae dau frawd wedi cael eu carcharu am oes ar ol eu cael yn euog o lofruddio dyn 43 oed ar ochr ffordd yn Rhondda Cynon Taf.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Mark Jones yn eistedd yn ei gar Audi A3 ar 26 Gorffennaf y llynedd, pan gafodd ei saethu gan Stephen Bennett, 53 oed o Bontypridd, ac Edward Bennett, 48 o Benrhiwceibr.

Digwyddodd o drosedd rhwng Abercynon ac Aberpennar a bu Mark Jones yn yr ysbyty am ddeufis cyn y bu farw.

Bydd yn rhaid i’r ddau frawd dreulio isafswm o 30 mlynedd dan glo.

Roedd y ddau ddyn yn gwadu llofruddiaeth ond fe’u cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd yn dilyn achos a oedd wedi para am bum wythnos.