Mae nifer o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru yn cefnogi ymgyrch i gofio am sêr byd y campau yng Nghymru a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.

Ar Sul y Cofio, mae Wayne Hennessey, Gareth Bale a rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi ymuno ag ymgyrch y Llengfilwyr Prydeinig, ‘Sport Remembers’.

Ymhlith y rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd gôl-geidwad Cymru, Leigh Roose.

Dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman: “Mae’n bwysig ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd fel tîm ac fel gwlad i gofio am y rhan y chwaraeodd cyn-bêldroedwyr ac eraill o fyd y campau ym Mrwydr y Somme.

“Fyddwn ni byth yn anghofio aberth pobol ar bob lefel o’r gêm ac rydyn ni’n falch o chwarae ein rhan yn ymgyrch ‘Sport Remembers’ Llengfilwyr Prydain.”

Ychwanegodd Gareth Bale: “Rwy’n falch o gefnogi ymgyrch ‘Sport Remembers’ Llengfilwyr Prydain ac i gofio am y pêl-droedwyr a’u haberth eithriadol droson ni.”

Hanes Leigh Roose

Pan gafodd llyfr newydd, Lost in France (Pitch Publishing, 2016) am un o sêr cynta’r byd pêl-droed yng Nghymru ei gyhoeddi yn 2007, prin y byddai’r awdur wedi dychmygu mai ar ei hanner yn unig yr oedd ei stori. Y gred ar y pryd oedd fod Leigh Roose, gôl-geidwad tanllyd Cymru (24 cap, 1900-11), wedi cael ei ladd ym mrwydr Gallipoli.

Roedd Spencer Vignes hefyd dan yr argraff – yn gwbl anghywir – fod Roose, o bentref Holt ger Wrecsam, wedi cael chwarae yn y gêm enwog yn y ffosydd ar Ddydd Nadolig 1914 ac fe aeth ati i ysgrifennu’r hanes mewn erthygl. Dim ond ar ôl cyhoeddi’r darn hwnnw y cafodd wybod fod testun ei erthygl yn dal ar dir y byw am hyd at ddwy flynedd wedi hynny.

Ond gyda threigl amser ac ar ôl i’r cyhoeddwr gwreiddiol fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, cafodd Vignes ail gyfle i adrodd yr hanes – y tro hwn yn ei gyfanrwydd ar ôl naw mlynedd ychwanegol o ymchwil – ac i ddatrys y dirgelwch mawr.

Wrth dreiddio’n ddyfnach i hanes Roose, sylweddolodd yr awdur mai gwall sillafu – sydd bellach wedi’i gywiro ar gofeb Thiepval – oedd yn ei atal rhag darganfod beth yn union oedd wedi digwydd.

Dywedodd Spencer Vignes wrth Golwg360: “Do’n i byth yn siŵr sut ddigwyddodd y gwall. Ond wrth ymchwilio, fe ddaeth yn fwy tebygol ei fod wedi digwydd wrth i Leigh ymuno â’r Ffiwsilwyr. Dw i wedi gweld ei gerdyn cofrestru, a dydy’r ail ‘o’ yn ei enw ddim cweit yn cau. O ganlyniad, mae cofnodion pellach yn dweud ‘Rouse’.”

Bellach, gallai Vignes wneud cyfiawnder â bywyd a gyrfa liwgar y pêl-droediwr oedd yn cael ei adnabod fel ‘Tywysog y Gôl-geidwad’.

Ac yntau wedi’i ysbrydoli i gwblhau’r stori am fywyd a gyrfa Leigh Roose, trodd Vignes at Cecil (Dick) Jenkins, nai 96 oed Roose oedd yn byw yn Amwythig.

“Fe wnes i eistedd gyda fe dros ddiod neu chwech a chael yr hanesion i gyd. Ro’n i’n euog o gredu mai atgofion hen ddyn oedden nhw, gan gwestiynu pa mor gywir oedden nhw. Ond roedd ei gof tymor hir yn wych. Roedd popeth ddywedodd e’n gywir a dyna ddechreubwynt y llyfr i fi.

“Fe dyfodd y stori am ei farwolaeth, y dryswch am ei enw, ei ddylanwad ar esblygiad pêl-droed. Fe ddaeth yn stori am y dyn yr oedd hanes wedi anghofio amdano.”