Mae tafarnwr wedi colli apêl yn erbyn dirwy am iddo ddangos gêm bêl-droed gan ddefnyddio’r cerdyn anghywir i ddarlledu.

Fe ddefnyddiodd Anthony Luxton, landlord The Rhyddings, gerdyn bocs Ewropeaidd cartref, ac nid un masnachol, i ddangos gêm Abertawe yn 2011.

Ac ar ôl cael dirwy am wneud, fe gyhuddodd yr Uwch Gynghrair a Sky o “gynllwynio” yn ei erbyn mewn ymgais i’w atal rhag dangos gemau yn ei dafarn.

Ond fe wrthododd barnwr ei ddadl fod cytundeb rhwng y ddau sefydliad yn groes i reolau Ewropeaidd.

Hyd yn oed pe bai hynny’n wir, meddai’r Llys Apêl, roedd e wedi torri’r gyfraith drwy ddefnyddio bocs ‘domestig’ Sgandinafaidd at ddibenion masnachol “heb ganiatâd”.

Ar ddechrau’r ffrae, roedd y landlord wedi mynnu ei fod e wedi prynu cerdyn masnachol, ond ei fod e wedi darganfod yn ddiweddarach nad oedd y cyflenwyr wedi gallu dod o hyd i gerdyn masnachol, ac felly eu bod nhw wedi defnyddio cerdyn cartref heb yn wybod iddo.

Yn 2014, cafwyd e’n euog o dorri hawlfraint ac fe gafodd ei orchymyn i dalu £65,000 ynghyd â chostau ychwanegol.

A phenderfynodd y Llys Apêl nad oedd ei resymau tros apelio’n ddilys, hyd yn oed pe bai unrhyw gytundeb rhwng yr Uwch Gynghrair a Sky yn torri rheolau.