Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi rhybuddio bod rhaid i Donald Trump ddeall gwerth y sector adnewyddol os yw am weld economi’r Unol Daleithiau yn ffynnu.

Yn ystod ei ymgyrch etholiadol, fe ddywedodd Donald Trump mai China wnaeth lunio’r syniad o gynhesu byd eang er mwyn rhwystro diwydiant cynhyrchu’r Unol Daleithiau.

Dywedodd hefyd y byddai’n tynnu nôl o Gytundeb Paris, sef y cytundeb rhyngwladol gyntaf ar newid hinsawdd, ond mae sefydliad Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd (CAN) yn gwadu bod modd iddo wneud hyn.

Twf yn y sector ‘gwyrdd’

Wrth ymateb i ganlyniad yr etholiad y America, dywedodd Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Alice Hooker-Stroud wrth golwg360:

“Mae twf swyddi yn y diwydiant amgylcheddol, adnewyddadwy yn fwy nag unrhyw sector arall. Dyma’r patrwm yn yr Unol Daleithiau ac ym mhob economi arall yn y byd. Os yw Trump am weld America yn ffynnu, mae’n rhaid iddo gofio hyn.

“Mae ynni adnewyddadwy yn rhagori ar raddfa byd eang. Y twf mwyaf yn y diwydiant ceir yw ceir trydanol. Mae gwledydd, busnesau, cymunedau ac unigolion yn gweithredu i geisio arafu newid hinsawdd ym mhob cwr o’r byd.”