Emma Louise Baum
Mae llys wedi clywed mai ffrae am hawl i weld plentyn wnaeth arwain at lofruddiaeth merch 22 oed o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle.

Fe wnaeth cyn-gariad Emma Baum yrru i’w chartref yn Heol Llwyndu yn y pentre’ am tua 2:00yb ar Orffennaf 18, cyn ei tharo droeon gyda bar metel yng ngardd gefn y tŷ.

Mae David Nicholas Davies, 25, o Glynnog Fawr yn gwadu mynd i’w chartref gyda’r bwriad o’i llofruddio.

Fe ddywedodd wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi ei lladd yn dilyn ffrae, cyn cael gwared â’r arf mewn afon ger Pwllheli y diwrnod canlynol.

Digwyddiadau

Ar noson Gorffennaf 18, gwelodd David Davies bod golau ymlaen yn ystafell wely Emma Baum, felly penderfynodd ei ffonio. Wedi sgwrs 15 munud, fe wnaeth hi ei wahodd at y drws cefn ac yn ddiweddarach fe aeth y ddau i mewn i’r tŷ.

Fe drodd y sgwrs i drafod eu mab, ac o hynny fe ddechreuodd y ddau ffraeo.

Fe aeth ymlaen i ddweud bod Emma Baum wedi awgrymu y byddai’n symud o’r ardal ac wedi dweud wrtho nad ei blentyn o oedd ei mab.

Mewn ymateb, fe alwodd David Davies ei gyn-gariad yn “butain”, cyn mynd i nôl y bar metel o gwt cwningod a’i tharo gyda’r arf.

Dyfarniad

Mae’r gwrandawiad wedi dod i ben am y dydd, a bydd y barnwr yn cyhoeddi ei ddyfarniad ddydd Iau.