Llun: PA
Mae pedair rhan o’r prosiect i drydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Llundain a de Cymru wedi cael eu gohirio.

Cyhoeddodd Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth Prydain, Paul Maynar, y byddai trydaneiddio’r rhannau hyn yn cael eu gohirio oherwydd y gallai trenau newydd “ddod â’r buddiannau disgwyliedig i deithwyr” heb orfod gwneud “gwaith trydaneiddio sy’n ddrud ac yn amharu ar deithwyr.”

Dywedodd Paul Maynar y byddai gohirio’r gwaith yn arbed rhwng £146 miliwn a £165 miliwn a fyddai wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer “buddiannau ychwanegol i deithwyr.”

Roedd disgwyl i’r prosiect, fydd yn costio £2.8 biliwn, gael ei gwblhau yn wreiddiol erbyn 2018.

Mae’r pedair rhan a fydd yn cael eu gohirio yn cynnwys y llinell rhwng Rhydychen a Didcot Parkway; Bristol Parkway a Bristol Temple Meads; Caerfaddon i Bristol Temple Meads; a Dyffryn Tafwys i Henley a Windsor.