Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas
Mae cynllun newydd i annog mwy o gyd-weithio rhwng gweithwyr cyllid y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei lansio yng Nghaerdydd.

Bydd swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru, y Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg ymhlith y cyrff fydd yn dod at ei gilydd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd yn ddiweddarach i drafod eu syniadau.

Prif amcan y cynllun fydd darparu secondiadau i weithwyr cyllid er mwyn iddyn nhw gael profiad o ddiwylliannau, heriau a ffyrdd gwahanol o weithio. Fe fydd trafodaeth hefyd am gynnal rhaglen i bobol ifanc sydd â diddordeb yn y maes.

‘Ymdopi â’r heriau’

Ymhlith y siaradwyr mae Simon Thomas AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

“Drwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus, gallwn ddatblygu’r sgiliau a’r arbenigedd ariannol angenrheidiol i ymdopi â’r heriau o’n blaenau – ac mae Cymru yn wlad sy’n ddigon bach inni allu gwneud hyn, a gwneud hyn yn dda.”