Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i golledion ariannol y Mudiad Meithrin drwy ddweud y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar.

Mae’r mudiad wedi gwneud colledion o £471,000 yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy’n dros ddwbl yr hyn a gollwyd yn 2015.

Yn ôl cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, mae’r blynyddoedd cynnar yn “faes allweddol” i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r heriau ariannol y mudiad yn dangos bod angen i’r Llywodraeth flaenoriaethu’n llawer iawn mwy darpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar,” meddai Toni Schiavone.

“Yn sicr, mae’n faes allweddol os yw’r Llywodraeth o ddifrif am greu miliwn o siaradwyr.”

Mae golwg360 wedi ceisio cael ymateb gan y Mudiad Meithrin ond doedd neb ar gael i ateb ymholiadau.

Colli swyddi?

Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd ynghylch faint o bobol fydd yn colli eu swyddi ac mae’n debyg y bydd yn rhaid i rai gwasanaethau cau lawr.

Un o’r rhain fydd crèche Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, a fydd yn cau ar 12 Tachwedd, oherwydd “diffyg diddordeb.”

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi cyflwyno deiseb i’r Llywodraeth yn galw am “gynyddu’n sylweddol cyllideb Cymraeg i Blant.”

Byddai hyn, yn ôl y mudiad, yn golygu bod “trosglwyddo’r iaith yn y teulu yn dod yn flaenoriaeth.”

“Mae rhaglenni i gynyddu defnydd yr iaith ar yr aelwyd yn allweddol,” ychwanegodd Toni Schiavone.

Llywodraeth yn “hapus”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “hapus” â pherfformiad y Mudiad Meithrin ar y cyfan.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb pellach gan y Llywodraeth am sylwadau Cymdeithas yr Iaith.