Miriam Briddon
Fe fydd teulu merch a gafodd ei lladd gan ddyn oedd yn yfed a gyrru ddwy flynedd yn ôl, yn cyflwyno deiseb i Brif Weinidog Prydain, Theresa May yn Llundain heddiw.

Mae’r ymgyrch A Moment for Miriam yn galw am newid y gyfraith yfed a gyrru trwy gynyddu’r gosb i yrrwyr sy’n cael eu dwyn yn euog o yfed dan ddylanwad.

Mae’r ddeiseb wedi llwyddo i gael 109,114 o enwau yn cefnogi’r ymgyrch, gan sicrhau y bydd yn cael ei drafod yn Senedd San Steffan.

“Yr ydym yn mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn briodol, ac yn sicrhau trafodaeth, sy’n cael ei ymateb gyda deddfwriaeth yn y dyfodol.

Cafodd Gareth Entwhistle a laddodd Miriam Briddon ei ddedfrydu am bum mlynedd a chwe mis yn Llys y Goron Abertawe.