Mae Dafydd Wigley wedi galw am ail refferendwm ar gytundeb Brexit os nad yw Aelodau Seneddol yn cael pleidleisio ar y telerau.

Pe na bai hyn yn digwydd, mae cyn-Arweinydd Plaid Cymru yn credu bod “democratiaeth yn farw”.

Fe ddywedodd cyfreithiwr ar ran Stryd Downing ddoe ei bod hi’n “debygol iawn” y bydd aelodau yn cael pleidleisio.

Byddai’r bleidlais yn digwydd ar ôl trafodaethau ar y pecyn gadael ac ar ôl gweithredu Erthygl 50 Cytundeb Lisbon gan arwain at ddwy flynedd o drafodaethau. Ond mae ymgyrchwyr am weld y bleidlais yn digwydd cyn gweithredu Erthygl 50.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn gwrthwynebu pleidlais cyn Erthygl 50, gan ddweud bod yr ymgyrchwyr yn “ceisio tanseilio” canlyniad mis Mehefin.

Mewn ymateb i hyn, fe ddywedodd Dafydd Wigley, sy’n aelod o Dy’r Arglwyddi, ar ei gyfrif trydar: “Os nad yw’r Senedd yn cael pleidleisio ar dermau Brexit, yna mae’n rhaid i’r pecyn terfynol gael ei gefnogi gan ail refferendwm.

“Fel arall, mae democratiaeth yn farw”.