Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun newydd heddiw ar sut i fynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg yn y dyfodol yng Nghymru.
Fe fydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn gwneud ei datganiad ar y mater yn y Siambr y prynhawn yma.
Mae disgwyl iddi gyfeirio at ddulliau i fynd i’r afael â’r clefyd ar ôl ystyried tystiolaeth wyddonol a chynnal arolwg ar gyfradd y clefyd ymysg bywyd gwyllt.
Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi o frechu moch daear mewn Ardal Driniaeth Ddwys sy’n cynnwys rhannau o Sir Benfro.
Ond, fe ddaeth y prosiect hwnnw i ben ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG.
‘Rhybudd am gytundebau masnach’
Mae cynrychiolwyr undebau amaethyddol Cymru wedi bod yn pwyso am newid i’r system o fynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio fis diwethaf y gallai’r clefyd beryglu cytundebau masnachu gydag Ewrop yn y dyfodol.
Yn ôl yr undeb, mae lefelau’r diciâu yn uwch na’r lefelau a fyddai’n dderbyniol yng ngwledydd eraill Ewrop wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Lloegr yn gweithredu cynllun lle mae saith ardal benodol sydd â chyfraddau uchel o’r haint wedi cael trwyddedau i ddifa moch daear.
Cymharu polisïau Cymru a gwledydd Ewrop…
Un sydd newydd gyflwyno ymchwil helaeth ar ddulliau i ddelio â diciâu mewn gwartheg ar draws Ewrop yw’r ffermwr o Dalgarth ym Mhowys, Dafydd Saunders Jones, wedi iddo dderbyn Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield.
Dywedodd wrth golwg360 mai’r hyn yr hoffai ef weld yn y cyhoeddiad heddiw ydy “strategaeth hirdymor sy’n cael ei chefnogi gan yr holl bleidiau gwleidyddol, gyda chefnogaeth ariannol, ac sydd hefyd yn defnyddio’r holl offer sydd ar gael.”
Dywedodd y byddai am weld polisi fyddai’n delio â ffermydd sy’n disgyn o dan warchae TB yn aml.
“Mae pob ffarm a phob sefyllfa yn wahanol, felly byddwn i’n hoffi gweld y milfeddyg, y llywodraeth a’r ffermwr yn dod at ei gilydd i weithio allan beth yw’r broblem efo’r fferm benodol honno a defnyddio’r offer mwyaf addas i ddelio â’r sefyllfa yn y fan honno.”
Ar ôl astudio polisïau Ffrainc, Sbaen, Y Swistir, Gwlad Belg, Sweden, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd yn cydnabod fod rhinweddau a diffygion i bolisi presennol Cymru.
“Ar un llaw, mae cydweithio da rhwng ffermwyr a’r llywodraeth yng Nghymru, ond y pethau nad sydd cystal yma yw sut ry’n ni’n delio â ffermydd sydd o dan gyfyngiadau yn aml, a falle nad ydyn ni’n defnyddio’r arian orau allwn ni.”