Mae Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith yn “siomedig ofnadwy” nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar roi’r hawl cyfreithiol i gleifion gael gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg gan feddygon teulu, deintyddion, optegwyr na fferyllwyr.

Nid yw’r Llywodraeth am osod Safonau Iaith ar y darparwyr ‘gofal sylfaenol’ hyn.

Yn ôl dogfen ymgynghorol y Llywodraeth, Safonau’r Gymraeg – Gwella gwasanaethau’r sector iechyd i siaradwyr Cymraeg – byddai rhoi’r hawl cyfreithiol i gleifion dderbyn gwasanaeth yn Gymraeg gan feddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn ‘gwneud y bwrdd iechyd yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau gan un o’r darparwyr gofal sylfaenol er gwaethaf y ffaith nad oes ganddo unrhyw ddylanwad uniongyrchol ar y darparwr unigol’.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod angen i Lywodraeth Cymru orfodi’r Byrddau Iechyd i osod amod ar feddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Yn y gorffennol mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi lleisio gwrthwynebiad gan ddweud y byddai gorfod cynnig gwasanaethau Cymraeg yn cael effaith ar recriwtio gan na fyddai meddygon di-Gymraeg eisiau dod i Gymru.

Mae’r cyfnod ymgynghori ar y Safonau Iaith y mae’r Llywodraeth am eu cyflwyno ym maes Iechyd yn cau heddiw.

 “Siomedig ofnadwy”

Fis Mehefin fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod ystadegau swyddogol yn “amlygu’r angen am wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd trwy gyfrwng y Gymraeg ymhob rhan o Gymru. Nid ‘dewis’ yw cyfathrebu yn iaith y claf, ond rhan annatod o wasanaeth iechyd o ansawdd ac mae’n rhan o effeithiolrwydd gofal clinigol”.

Mae Heledd Gwyndaf, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, yn “siomedig ofnadwy” nad ydy’r Llywodraeth yn fodlon rhoi’r hawl i gleifion dderbyn gwasanaeth yn Gymraeg gan y darparwyr ‘gofal sylfaenol’ – “er bod adroddiad y Comisiynydd [y Gymraeg] yn datgan yn glir yr angen mawr am ofal iechyd sylfaenol trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

“Hynny yw, y doctoriaid, y fferyllfeydd, yr optegwyr, y bobol rydyn ni’n cwrdd â gyntaf yn Y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’r papur ymgynghoriad yn dweud yn hollol i’r gwrthwyneb i’r holl ymchwil a’r hyn roedd y Comisiynydd wedi dweud, yn dweud ‘does dim angen i’r rheiny gynnig gwasanaeth Cymraeg’.

“Felly mae hynny yn siom difrifol. Mae’r maes iechyd yn faes sydd mor bwysig ac mae’r Gymraeg sydd ynddo fe, a dweud y gwir, yn penderfynu pa mor dda yw’r gwasanaeth.

“Dim rhyw atodiad yw’r iaith. Mae e’n ganolog i’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan ein Gwasanaeth Iechyd ni.”

Ymateb y Llywodraeth

Pan ofynnodd golwg360 i Lywodraeth Cymru pam nad yw darparwyr ‘gofal sylfaenol’ am ddod dan y Safonau Iaith, fe gafwyd y datganiad yma:  “Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar reoliadau sy’n pennu safonau ar gyfer cyrff yn y sector iechyd, gan gynnwys byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Yn ystod yr ymgynghoriad rydym wedi trafod y Rheoliadau drafft gyda nifer o rhanddeiliaid gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion ar ôl i’r ymgynghoriad gau.”

Mae llefarydd Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth golwg360 y bydd yn “cyflwyno ei hymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth erbyn y dyddiau cau. Mae’n arfer gennym gyhoeddi ein hymatebion i ymgynghoriadau ar ein gwefan mor fuan â phosibl ar ôl ei anfon at y sefydliad.”