Mae llety newydd yn cael ei agor yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn heddiw, gyda lle i 38 o bobol gysgu yno.

Mae’n fuddsoddiad gwerth £1.6m er mwyn ceisio ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion, cynadleddau, ymweliadau grŵp a phriodasau yn yr hen bentre’ chwarelyddol.

Fe fydd Alun Davies, yr ysgrifennydd sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yng nghabinet Llywodraeth Cymru, yn trafod strategaeth ddrafft y Gymraeg. Fel canolfan iaith genedlaethol ac un o’r prif ddarparwyr Cymraeg i Oedolion yng Nghymru, mae Nant Gwrtheyrn wedi ymrwymo i gynorthwyo’r Llywodraeth i sicrhau rhai o’r amcanion sydd yn cael eu hamlinellu yn y strategaeth ddrafft.

Mae hynny’n cynnwys annog a chefnogi’r broses o drosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd, yn ogystal â chreu rhagor o gyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

“Rydyn ni eisoes wedi croesawu amryw o grwpiau i Dŷ Canol ac mae’r adeilad yn profi i fod yn ychwanegiad defnyddiol dros ben yn y pentre’,” meddai Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn.

“Dyma gyfnod cyffrous iawn yn y Nant a bydd yr adnodd arbennig yma yn ein galluogi i wella ac ehangu ein darpariaeth ar gyfer y cwsmer.”