Llys y Goron Caerdydd
Mae’r achos yn erbyn dau frawd sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yng Nghwm Cynon y llynedd wedi dechrau yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Bu farw Mark Jones, 43 oed, yn yr ysbyty ym mis Medi’r llynedd, ddeufis ar ol cael ei saethu mewn car ar ochr y ffordd yn Aberpennar ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae Stephen Bennet, 53, o Bontypridd ac Edward Bennet, 47, o Aberpennar yn wynebu cyhuddiadau o lofruddio ac o fod ag arf yn eu meddiant.

Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau, ac mae’r achos yn parhau.