Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Mae criw o diwtoriaid iaith sy’n cynnal cwrs ar-lein i ddysgu Cymraeg i oedolion wedi dweud wrth Golwg360 fod ganddynt “bryder dwfn” am sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r wythnos diwethaf.

Wrth ymateb i gwestiwn ar fewnfudo ar raglen Question Time nos Iau ddiwethaf, fe wnaeth Alun Cairns feirniadu arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, gan awgrymu nad yw aelodau ei phlaid yn croesawu siaradwyr Saesneg i gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Ychwanegodd, “doedd hi ddim mor hir yn ôl pan oedd bythynnod yn cael eu llosgi i’r llawr,” ac fe wnaeth Leanne Wood alw’r sylwadau yn “warthus.”

Mewn llythyr heddiw, dywed Aran Jones, Catrin Jones, Iestyn ap Dafydd a Catherine Dafydd sy’n rhedeg y wefan Say Something in Welsh eu bod yn “gwrthod yn llwyr honiadau’r Ysgrifennydd Gwladol,” gan ddweud nad yw’n cyd-fynd â phrofiad llawer o’u dysgwyr Cymraeg.

“Mae pobol sydd yn dysgu [Cymraeg] dramor yn cael eu hymweliadau â Chymru yn wyliau hynod gyfoethog, diolch i’r bobol leol sy’n parchu ac yn croesawu eu diddordeb yn y diwylliant Cymreig a Chymraeg.”

‘Anfaddeuol’

“Yn ein profiad ni, dros saith mlynedd o ddysgu Cymraeg drwy ein gwefan, nid ydym wedi clywed am un achos o wrthod rhywun sydd eisiau integreiddio. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n dysgu Cymraeg gyda ni yng ngorllewin Cymru yn gwneud hynny oherwydd y croeso a gawsant, ymhell cyn iddynt ddechrau siarad ein hiaith,” meddai’r llythyr.

“Mae pardduo siaradwyr Cymraeg yn y modd hwn gan weinidog y llywodraeth yn warthus, ac mae gwneud hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn gwbl anfaddeuol.

“Rydym wedi dod i arfer ar weld gwleidyddion, yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, a thramor, yn ceisio ennyn cefnogaeth mwyafrifoedd trwy ymosod ar leiafrifoedd. A yw’r canser wir mor ddwfn bod Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ‘siaradwr balch y Gymraeg’ yn credu bod ymosod ar gymunedau Cymraeg eu hiaith yn ffordd dderbyniol o sgorio pwyntiau gwleidyddol?”

‘Dadl rymus’

Wrth ofyn am ymateb Swyddfa Cymru i’r sylwadau, fe wnaethant gyfeirio at sylwadau Guto Bebb ar raglen Sunday Politics ddoe pan ddywedodd fod Question Time yn “rhaglen rymus.”

“Yr hyn welais i oedd dadl rymus rhwng Leanne Wood ac Alun Cairns.”

Ers y rhaglen nos Iau, mae nifer wedi cymryd at y cyfryngau cymdeithasol i ddangos sut mae Cymru yn croesawu pobol i’w cymunedau gan ddefnyddio’r hashnod #NiYwCymru ac #WeAreWales.