Parchedig Wayne Roberts
Un o gaplaniaid Ysbyty Glan Clwyd, a gweinidog yr efengyl, oedd y dyn 57 oed y daethpwyd o hyd i’w gorff ar draeth Llanddulas ger Bae Colwyn yr wythnos hon.

Roedd y Parchedig Wayne Roberts wedi bod yn weinidog ym Môn ac yn Sir Ddinbych, roedd yn dad cariadus, yn arweinydd teithiau tramor byrlymus i lefydd fel Obberammagau, yn ogystal â bod yn gogydd o safon uchel.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w gorff gan bobol yn cerdded eu cwn fore Mercher.

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Glan Clwyd eu bod wedi eu “tristhau” o glywed am farwolaeth Wayne Roberts, “cydweithiwr annwyl”.