Mae un o fyrddau iechyd Cymru wedi cyhoeddi fideo heddiw sy’n ceisio tawelu ofnau plant wrth ymweld â’r ysbyty.

Mae fideo Capten Gwella, neu Capten G, wedi’i anelu at blant yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin a Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae’n dod ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda weld sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a chlywed gan rieni bod plant yn gallu mynd yn bryderus cyn gorfod ymweld neu aros mewn ysbyty.

Yn ôl y Bwrdd, mae’r fideo yn dangos i deuluoedd bod staff yn helpu plant i deimlo’n gyfforddus a bod modd chwarae mewn ysbytai hefyd.

Gwybodaeth am yr hyn i ddisgwyl

“Mae’r fideo’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i blant a’u teuluoedd am yr hyn y gallant ddisgwyl o arhosiad mewn ysbyty,” meddai Isobell Hall, Nyrs y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant.

“Mae ein gweithwyr chwarae a’n nyrsys wedi sicrhau bod y fideo’n cynnwys gwybodaeth y mae plant a’u teuluoedd yn gofyn amdani’n aml – o’r triniaethau a’r profion posibl i’r amgylchedd cyfeillgar a chyfforddus.

“Rydym wedi defnyddio’r un iaith ag y byddent yn ei chlywed wrth inni roi’r gofal, ac wedi dangos ein technegau chwarae a thynnu sylw mewn modd gweledol.”

Lle i wylio’r fideo

Bydd sôn am y fideo mewn llythyron apwyntiad i blant, ar sgriniau digidol yn ardaloedd aros yr ysbytai a bydd gweithwyr chwarae yn defnyddio’r fideo wrth siarad â phlant a theuluoedd neu wrth yn ymweld ag ysgolion neu grwpiau lleol.

Mae’r fideo ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a dyma’r fideo cyntaf i’r bwrdd iechyd ei greu sydd ag is-deitlau yn y ddwy iaith i blant a theuluoedd â nam ar y synhwyrau.