James Sommerin yn derbyn ei seren Michelin (Llun o wefan James Sommerin)
Mae dau fwyty newydd wedi derbyn seren Michelin wrth i’r rhestr ar gyfer 2017 gael ei chyhoeddi heddiw.

Y bwytai diweddaraf i dderbyn seren Michelin yw Sosban & The Old Butchers ym Mhorthaethwy, Ynys Môn a James Sommerin ym Mhenarth Bro Morgannwg.

Mewn neges ar ei wefan, dywedodd James Sommerin: “Dw i wir ddim yn gallu credu beth sydd wedi digwydd heddiw, ac mae’n anodd iawn i’w gyfleu mewn geiriau ond dyma wireddu breuddwyd imi.”

Mae yntau a’i deulu wedi rhedeg y bwyty ynghyd â darparu ystafelloedd gwely ym Mhenarth ers 2014.

Dyma’r ail seren Michelin iddo ei hennill, wedi iddo gael y gyntaf rhwng 2007 a 2013 pan oedd yn brif gogydd yn y Crown ger Trefynwy.

Mae’r ddau fwyty yma’n ychwanegol at bum bwyty arall o Gymru sydd wedi dal eu gafael ar y rhestr, sef Walnut Tree, Y Fenni; Tyddyn Llan, Llandrillo; Ynyshir, Machynlleth; The Whitebrook, Trefynwy; a The Checkers, Trefaldwyn.