Mae cwmni o Gymru wedi cipio gwobr yn y National Reality TV awards neithiwr.

Cwmni cynhyrchu Avanti sydd â’i phencadlys yng Nghaerdydd aeth a’r wobr am y gyfres ddogfen sebon orau gan guro 13 o enwebiadau eraill.

Avanti oedd wedi cynhyrchu Britain’s Billionaire Immigrants, rhaglen ar Channel 4  yn olrhain rhai aelodau cymdeithas elitaidd a chyfoethog Tsieina sydd wrth eu boddau gyda phob peth Prydeinig.

Daeth y rhaglen i’r brig yn erbyn cyfresi poblogaidd eraill fel Don’t Tell the Bride, One Born Every Minute a Grayson Perry: All Man.

Dywedodd Avanti ar wefan Twitter eu bod nhw’n teimlo’n “freintiedig” o fod wedi ennill y wobr.