ACau ar set Pobol y Cwm
Mae storm wedi codi ar y cyfryngau cymdeithasol dros hunlun criw o Aelodau Cynulliad ar set Pobol y Cwm.

Cafodd ei dynnu gan Aelod Cynulliad Llafur, Jeremy Miles, ac mae’n dangos aelodau Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn closio at ei gilydd am lun.

Mae’r llun wedi cael ei rannu degau o weithiau ar Twitter a Facebook gyda nifer yn anhapus bod Aelodau Cynulliad i’w gweld yn rhy gyfeillgar ag un o aelodau’r pwyllgor, Neil Hamilton o UKIP.

Yn y llun hefyd mae Bethan Jenkins a Dai Lloyd, ACau Plaid Cymru a chadeirydd y pwyllgor, Suzy Davies, AC Ceidwadol, a’r Aelodau Cynulliad Llafur, Lee Waters a Hannah Blythyn.

Llun “ffiaidd”

Mae’r ymgyrchydd iaith, Simon Brooks, wedi galw am eglurhad gan Blaid Cymru a Llafur, gan alw’r llun yn “ffiaidd”.

“Drychwch ar hyn o Aelodau Cynulliad Plaid a Llafur yn chwerthin gydag UKIP fel pe baent nhw’n ffrindiau. Ffiaidd,” meddai.

Ar Facebook, fe ychwanegodd fod “aelodau Plaid Cymru (ac aelodau Llafur a’r Gwyrddion ac Annibynwyr a phawb) ym Mhorthmadog (ac mewn degau o gymunedau tebyg) yn cwffio ddydd a nos i gadw Ukip allan o’n cymunedau.”

“Mae’n torri fy nghalon i weld Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn enwedig yn ymddwyn fel hyn. Mi fydd gan fy ffrindiau yn y Blaid Lafur deimladau tebyg am yr Aelodau Cynulliad Llafur wrth gwrs.”

Amddiffyn y llun

Mae Bethan Jenkins wedi amddiffyn y llun, gan ddweud bod Neil Hamilton wedi “neidio i mewn i’r llun” ac y byddai’n well ganddi “[d]rafod materion pwysig y dydd na hwn.”

“Wastad mor mor hawdd i feirniadu. Nid fi ‘nath ethol UKIP. Nes i ymgyrchu yn gryf yn erbyn nhw ac yn parhau i wneud. Sdim byd cosy yn digwydd rhwng fi a UKIP o gwbl. Felly dwi just ddim yn derbyn y [f]eirniadaeth,” meddai mewn ymateb i neges Facebook Simon Brooks.

Ymateb ar Twitter

Nid Simon Brooks yw’r unig un sy’n anhapus chwaith, gyda sawl un arall yn uchel eu beirniadaeth yn erbyn y “cyfeillgarwch” honedig sydd rhwng UKIP a phleidiau eraill.

Mae golwg360 wedi gofyn am sylw gan Blaid Cymru a Llafur Cymru.