Rhai o negeseuon Twitter Lucy Inglis
Mae hanesydd ac awdures o Lundain sy’n cyfrannu i bapurau newydd y Telegraph a’r Independent wedi ymosod ar yr iaith Gymraeg a’i siaradwyr.

Ar ei chyfrif Twitter, fe gyhoeddodd Lucy Inglis wrth ei 8,700 o ddilynwyr bod y Gymraeg yn “iaith sy’n cadw’r wlad mewn tlodi” a bod ei siaradwyr yn fwriadol droi o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn cau pobol allan o’r sgwrs.

Mae’r sylwadau bellach wedi cael eu dileu, ond mae gan golwg360 gopi ohonyn nhw.

Felly, beth ddywedodd Lucy Inglis?

Mewn cyfres o negeseuon ymosodol sy’n cyfeirio at ei phrofiadau hi ei hun o Gymru a’r Gymraeg ar ymweliadau â’r wlad pan yn blentyn, dyma beth ddywedodd yr awdur llyfrau hanes, 39 oed:

– Does yna ddim byd tebyg i gadw gwlad i lawr trwy ei hannog i siarad iaith hollol annealladwy (intelligible, sic).

– “Yn blant ifanc, fe gawsom ni ein gyrru i wersylloedd caledi yng Nghymru lle’r oedd y bobol yn gyson elyniaethus.”

– “Wrth glymu bwcl abseilio, roedden nhw’n arfer newid o’r Saesneg i’r Gymraeg er mwyn eich cau chi allan yn fwriadol.”

– “AC YNA fe ddaeth ymgyrch S4C i gadw’r iaith Gymraeg. Cerwch i grafu.”

Mae golwg360 wedi gofyn i asiant Lucy Inglis am ymateb i’r sylwadau sydd wedi achosi trafod mawr ar y gwefannau cymdeithasol.