Llun: Llywodraeth Cymru
Mae mwy nag erioed o oedolion wedi cael gwersi dysgu Cymraeg yn y gogledd-orllewin yn ystod 2015-2016, yn ôl ffigyrau gan ddau brif sefydliad dysgu.

Roedd 3,043 o bobol wedi mynychu gwersi gyda Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, sy’n gynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol.

O ganlyniad, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi dewis y ddau gorff i sefydlu Consortiwm ar y cyd i fod yn gyfrifol am yr holl wersi Cymraeg i ddysgwyr yn siroedd Conwy, Gwynedd a Môn.

Fe fydd y consortiwm yn cynnig gwelliannau i’r cyrsiau presennol ac yn ychwanegu mwy o dechnoleg i’r rhaglen ddysgu.

“Mae’r cyrsiau yma wedi profi’n eithriadol o boblogaidd wrth i ni eu peilota nhw’r llynedd a’r prif reswm ydy fod y cyrsiau’n galluogi dysgwyr i ddysgu ar adeg sy’n eu siwtio nhw.

“Mae hyn mor bwysig bellach pan fo amser sbâr pobl mor brin,” meddai Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr y Consortiwm.