Llun: PA
Mae cynnydd wedi bod mewn agweddau hiliol yn ysgolion Cymru ar ôl pleidlais Brexit, yn ôl elusen sy’n galw am weithredu brys i daclo’r broblem.

Yn ôl elusen Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth, a fu’n cynnal ymgynghoriad gydag athrawon yng Nghymru,  roedd un o bob pedwar athro wedi clywed disgyblion yn defnyddio geiriau fel ‘Taliban’, ‘terfysgwr’ a ‘ISIS’ wrth son am eu cyd-ddisgyblion.

Fe fydd yr elusen yn cyflwyno adroddiad ar y mater i Lywodraeth Cymru heddiw ac yn galw am ddyblu ymdrechion i amddiffyn pobol ifanc o gefndiroedd tramor. Bydd yn galw hefyd am roi mwy o hyfforddiant i athrawon ddelio hefo bwlio hiliol.

‘Problem wleidyddol’

Dros y misoedd diwethaf, daeth i’r amlwg bod athrawon wedi clywed plant yn gofyn i ddisgybl o Fangladesh os oedd o’n aelod o ISIS (y Wladwriaeth Islamaidd) ac eraill yn dweud wrth blentyn o Wlad Pwyl i fynd yn ôl i’w wlad ei hun. Dywedodd un athro o Sir Fynwy bod disgybl wedi gwneud sylwadau am liw croen aelod o staff o dras Fwslimaidd hefyd.

“Mae’r broblem yn un gwleidyddol – yn uwch i fyny yn y gadwyn awdurdod yr ewch chi, y lleiaf o bobol sydd am weld achosion fel hyn yn cael eu cofnodi,” meddai un athro.

“Rwyf wedi clywed rhai’n dweud ‘a ydych yn sicr eich bod am gofnodi hyn fel digwyddiad hiliol’ llawer gormod o weithiau. Mae’r diwylliant angen newid yn uwch i fyny.”

Cafodd 435 o athrawon Cymru eu holi o fewn yr ymgynghoriad ac roedd 90% yn cytuno y dylai addysg gwrth-hiliaeth fod yn rhan o’r cwricwlwm.

Camau brys

Ychwanegodd Sunil Patel, Rheolwr Ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru:

“Mae’n destun pryder mawr fod cwynion casineb hiliol wedi cynyddu’n sylweddol ers canlyniad y refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydym wedi sylwi bod safbwyntiau hiliol yn cael eu mynegi gan blant mor ifanc ag 8 oed – rydym yn hynod bryderus ac yn galw am gamau brys i gefnogi ac amddiffyn pobl ifanc yng Nghymru “.