Fe fydd tri aelod o’r un teulu yn cael eu cosbi heddiw gan Adran Safonau Masnach Cyngor Sir Powys, wedi i ymchwiliad ddangos eu bod wedi bod yn gwerthu cynnyrch gwynnu dannedd gyda lefel peryg o hydrogen perocsid yn y Sioe Fawr eleni.

Roedd gan y cynnyrch, a gafodd ei brynu gan Gyngor Powys yn ystod y sioe amaethyddol yn Llanelwedd fis Gorffennaf, yn cynnwys mwy na 110 gwaith y lefel cyfreithiol o’r cannydd. Mae’r cemegion mewn cynnyrch gwynnu dannedd yn gallu achosi afiechydon yn y gwm, a llosgi tu fewn y geg.

Bydd Matthew Hargreaves, John Barry Hargreaves a Jean Hargreaves yn clywed dyfarniad y cyngor yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd y cynghorydd Barry Thomas, sy’n aelod o gabinet Safonau Masnach, Cyngor Powys: “Mae swyddogion yn parhau i geisio canfod gwneuthurwyr y cynnyrch er mwyn diddymu’r gwerthiant.”