Mae cyn seren rygbi Cymru, Shane Williams yn dweud ei fod yn barod ar gyfer her triathlon Ironman Wales sy’n digwydd yn Ninbych y Pysgod y penwythnos hwn.

Er mwyn gwella’i dechneg nofio yr her IRONMAN, mae Shane wedi bod yn gweithio gyda Geraint Forster, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Ffitrwydd Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Mae Shane hefyd wedi gweithio gyda Dr Peter Herbert, ffisiolegydd y brifysgol.

“Mae’r gwaith r’yn ni wedi bod yn ei wneud wedi bod o help mawr i mi a dyna pam rwy’n cadw dod nôl am ragor o hyfforddiant,” meddai Shane Williams.

“Pan oe’n i’n chwarae rygbi, roe’n ni’n gwneud llawer o waith yn y labordy ac ar y melinau traed, ond llai o waith yn y dŵr, felly doeddwn i ddim yn teimlo’n hollol gyfforddus yn nofio. Rwy’n gwybod fy mod i’n nofio’n gryfach nawr a bydd hyn yn fy helpu yn ystod y Triathlon a’r Ironman pan fydd pethau’n mynd yn galed.”

Cystadlodd Shane yn Ironman Cymru y llynedd ac mae’n benderfynol o wella’i berfformiad eleni.

“Roe’n i’n pryderu am  elfen nofio’r Ironman,” meddai, “ond rwy’ wedi dechrau deall yn well ac ymlacio … pethau bach fel codi fy mhen ormod allan o’r dŵr yn effeithio ar gydbwysedd y corff i gyd.

“Ar ôl cyflawni’r hyn wnes i llynedd mewn cyfnod mor fyr, dylai fy nghanlyniadau eleni fod hyd yn oed yn well.”

Triathlon yw un o’r campau sy’n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain, gydag athletwyr fel y brodyr Brownlee a triathletwyr Cymreig fel Helen Jenkins a Non Stanford ar y brig. Mae Ironman Wales yn Ninbych y Pysgod wedi arwain at gynnydd yn y nifer o bobol sy’n cymryd rhan yng ngorllewin Cymru. Roedd mwy na 200 o ymgeiswyr o Sir Benfro yn unig yn cystadlu yn 2015.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymateb i boblogrwydd y gamp, trwy ddatblygu cyrsiau gradd sy’n canolbwyntio ar driathlon fel y BSc Outdoor Fitness.