Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos (Llun: Bassano, trwy Wikipedia)
Ar ôl iddo ymddeol o fod yn Aelod Seneddol yn 1979, fe gafodd Cledwyn Hughes ei urddo’n Arglwydd Cledwyn o Benrhos, ac yn 1982, daeth yn arweinydd yr wrthblaid yn Nhy’r Arglwyddi.

Ac yno y llwyddodd i wneud cyfraniad aruthrol, meddai D Ben Rees, trwy “ennill y dydd ar lywodraeth Mrs Thatcher 150 o weithiau”.

Ond roedd ei gyfraniad yn fwy i Gymru yn dilyn ei ymddeoliad, meddai D Ben Rees wedyn – “fel gwleidydd ac yn ei waith arall, pan fu’n Is-ganghellor ar Brifysgol Cymru”. Un o’i lwyddiannau mawr bryd hynny, meddai’r cofiannydd, oedd “cadw’r brifysgol (ffederal) at ei gilydd”.

A phan ddaeth Charles, mab y Frenhines, yn fyfyriwr am dymor i Brifysgol Cymru Aberystwyth ddiwedd y 1960au, Cledwyn Hughes “fynnodd” ei fod yn bwrw iddi i ddysgu Cymraeg cyn dod yn Dywysog Cymru yn 1969.

“Fe berswadiodd e hi (Y Frenhines) a Dug Caeredin, os oedd Tywysog Siarl am fod yn Dywysog Cymru, byddai’n rhaid iddo fe wybod am hanes Cymru a medru llefaru yn Gymraeg ar achlysuron arbennig,” meddai D Ben Rees.

“Daeth e’n boblogaidd iawn gyda’r teulu brenhinol, mae llythyron diddorol iawn rhyngddo fe a’r Tywysog Siarl a’r Dywysoges Diana.

“Roedd e’n ddyn y sefydliad erbyn diwedd, y sefydliad Saesneg a’r sefydliad Cymraeg. Bydden i’n meddwl mai fe oedd Llysgennad Cymru yn Lloegr a phob man arall,” meddai D Ben Rees.

* Bydd D Ben Rees yn traddodi ei ddarlith ar fywyd Cledwyn Hughes yn Oriel Môn, Llangefni, heno, i nodi geni’r gwleidydd ar Fedi 16, 1916 yn nhre’ Caergybi.