Pobol Bethesda yng Ngwynedd fydd y rhai cynta’ yng ngwledydd Prydain i dreialu cynllun ynni newydd a allai newid y ffordd y mae pawb yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni.

Fe fydd prosiect cwmni Ynni Lleol yn defnyddio cynllun ynni dŵr o afon Berthen i gael pris uwch pan fydd y gymuned leol yn defnyddio ei ynni adnewyddadwy.

Yn ôl y fenter, fe allai’r cynllun sydd wedi cael £90,000 o grant gan Lywodraeth Cymru, leihau biliau ynni yn sylweddol, hyd at 30%, a lleihau allyriadau carbon.

100 o gartrefi ym Methesda sydd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o’r treial ‘Clwb Ynni Lleol’, a’r gobaith yw ymestyn yr holl gynllun ledled Cymru.

“Am y tro cyntaf bydd pobol y gogledd yn gweld potensial llawn eu hadnoddau ynni adnewyddadwy lleol. Bydd yn cadw pres yn lleol… ac yn ein helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’n gilydd,” meddai Dr Mary Gillie, sylfaenydd y prosiect.

“Dylai’r wlad gyfan ddefnyddio pŵer fel hyn, rwy’n gobeithio y byddwn rhyw ddydd.”

Arbed £10,000 i’r economi leol

Bydd pob cartref yn cael ‘Mesurydd Clyfar’ i ddangos pryd a faint o drydan sy’n cael ei ddefnyddio, gyda’r trydan yn rhatach os bydd cartrefi yn ei ddefnyddio pan fydd y gwaith dŵr yn cynhyrchu ar adegau tawel, fel dros nos a chanol dydd.

Ynni Cydweithredol, partner y prosiect, fydd yn prynu’r trydan dros ben fydd yn cael ei gynhyrchu, a fydd yn darparu ar gyfer cartrefi pan fydd y galw’n fwy na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol.

Mae disgwyl y bydd yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn werth mwy na chontractau allforio trydan yn y pendraw, a fydd yn arbed hyd at £10,000 y flwyddyn i’r economi leol.

“Mae’r prosiect hwn yn rhoi’r pŵer i’r gymuned leol i reoli’r ynni y mae’n ei ddefnyddio, ac mae posibilrwydd yma i arwain at newid mawr yn y ffordd y caiff ynni ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yng Nghymru,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.