Mae Hollie Arnold o Ystrad Mynach wedi ennill medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Rio de Janeiro heddiw am daflu gwaywffon yn y gystadleuaeth F46.

Yn ogystal, enillodd Rob Davies o Aberhonddu fedal aur ei hun yn y gystadleuaeth tenis bwrdd i ddynion.

Llwyddodd Hollie Arnold, 22 oed, i osod record byd o 43.01m, a dyma’r trydydd gwaith iddi gynrychioli Prydain mewn Gemau Paralympaidd.

Dyma’r fedal aur Baralympaidd gyntaf i Rob Davies, 29 oed, a arferai chwarae rygbi yn lled broffesiynol tan iddo ddioddef anaf i linyn ei gefn tua wyth mlynedd yn ôl.

Mae’n dilyn llwyddiant Aled Siôn Davies a enillodd fedal aur yn y siot yn nosbarth F42 yn y Gemau Paralympaidd ddoe.