Pencadlys Cyngor Gwynedd
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn mynd ati i gau pedair llyfrgell yn y sir o fis Hydref ymlaen.

Fe gytunodd aelodau o gabinet y Cyngor i fwrw mlaen a chynlluniau i ad-drefnu gwasanaeth llyfrgelloedd Gwynedd ac arbed tua £170,000 y flwyddyn.

Y llyfrgelloedd fydd yn cau yw Harlech, Penrhyndeudraeth, Llanberis a Deiniolen.

Roedd hynny ar ôl “gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gan bobol leol i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriadau cyhoeddus.”

Bydd y gwaith o gau’r llyfrgelloedd yn cychwyn ym mis Hydref a’r newidiadau i gyd yn eu lle erbyn 2017.

Mae llyfrgelloedd dalgylch Abermaw, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Porthmadog, Pwllheli, Tywyn ac Y Bala yn osgoi’r fwyell yn ogystal â llyfrgelloedd cymuned Bethesda, Penygroes, Criccieth a Nefyn.

‘Her’

Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am Lyfrgelloedd:

“Rydym yn gwerthfawrogi fod unrhyw newid i wasanaeth sydd mor agos at galonnau llawer, ac sydd wedi aros heb newid ers blynyddoedd lawer, yn her.

“Ond wrth wrando yn ofalus ar yr hyn oedd gan bobl leol i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriadau cyhoeddus, rydw i’n grediniol mai’r hyn sy’n cael ei gynnig rŵan ydi’r model gorau posib er mwyn darparu gwasanaeth llyfrgell fodern a chynaliadwy i Wynedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”