Mae cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn i gasglu barn y cyhoedd ar strategaeth iaith Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd Tynged yr Iaith Sir Gâr wedi eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith i geisio eglurdeb ar gynllun gweithredu strategaeth bum mlynedd y Cyngor o ran y Gymraeg.

Daw’r strategaeth mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011 lle bu cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Bydd strategaeth drafft yn cael ei gyflyno i Fwrdd Gweithredol y Cyngor i’w dderbyn yn derfynol ar Hydref 17.

Pryder am ‘ddiffyg amserlen gweithredu’ “Rydyn ni wedi’n calonogi gydag agwedd gadarnhaol y Cyngor wrth fynd rhagddo i geisio gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sir eto, ond yn bryderus o achos diffyg amserlen weithredu, fel sydd wedi bod dros y blynyddoedd diweddar,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin.

“Rydym yn diolch i’r Cyngor am ddod i’r cyfarfod cyhoeddus a chydweithio gyda grwpiau cymunedol, ac yn annog pawb i ddod i’r cyfarfod yma er mwyn dylanwadau ar y cynllun pum mlynedd allweddol hwn.”